Skip to Add Tribute Skip to Content
Create a notice
What type of customer are you?
Why create a notice?
Announce the passing
Publish funeral arrangements
Remember a loved one gone before
Raise charitable donations
Share a loved one’s notice
Add unlimited tributes to this everlasting notice
Buy Keepsake
Print
Save

The obituary notice of Dorothy Mary JONES

Llangwm | Published in: Daily Post.

R W Roberts & Son
R W Roberts & Son
Visit Page
Preferred partner
Change notice background image
Dorothy MaryJONES16eg Hydref 2025

Yn dawel yng Nghartref Bryn yr Eglwys, Pentrefoelas, gynt o Dy'n yr Onnen, Llangwm, yn 90 mlwydd oed.

Priod annwyl y diweddar Trebor; mam gariadus Mererid ac Ilan, mam yng nghyfraith John ac Anwen a nain falch Brenig, Erin, Briall, Robert a Mathew.

Cynhelir gwasanaeth i ddiolch am fywyd Dorothy yng Nghapel Cefn Nannau, Llangwm, dydd Iau, 6ed Tachwedd am 2.30yp.

Dim blodau, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Y Gorlan Ddiwylliant, Llangwm.



R W Roberts a'i Fab, Gorffwysfa, Ffordd Ystrad, Dinbych, LL16 4RH. 01745 812935
Keep me informed of updates
Add a tribute for Dorothy
1133 visitors
|
Published: 22/10/2025
2 Potentially related notices
Want to celebrate a loved one's life?
Create your own ever lasting tribute today
1 Tribute added for Dorothy
Report a tribute
Add your own tribute
Add Tribute
Cefais bleser o fod yng nghwmni Dorothy sawl tro ers i mi ei chyfarfod y tro cyntaf yng nghanol y saithdegau.
Digwyddais fod yn ei chwmni pan glywsom ein dau y bu farw cymydog annwyl ac agos iddi fu'n gyn-siopwr a post-feistr yn Llangwm am ddegawdau. Wrth roi teyrnged fer i'r diweddar bost-feistr, meddai Dorothy wrthyf, "Wyddost di, tydi popeth ddim ar ben pan gollwn anwyliaid? Maent yn gadael gwaddol ar eu hôl sydd yn aros. Sylwa mor aml bydd coeden yn ail-flaguro ar ôl dymchwel." Yn sicir, bydd gwaddol Dorothy yn aros ar aelwydydd ei theulu, Bro Uwchaled ac ymhellach na hynny hefyd.
Bu'r geiriau yn gysur personol i mi sawl tro ar adegau trist o golli ffrindiau neu deulu. Cymaint felly, nes i mi roddi neges gysurlawn Dorothy mewn dwy bennill fel y gallent fod yng gysur i eraill.

Nid bob tro daw coed i derfyn
Wrth i lif neu storm eu disgyn.
Yn eu bôn bydd ailflaguro'n
Codi calon a chysuro.

Rhywbeth tebyg ydi bywyd
Ar ôl colli un anwylyd.
Y mae atgof a phob gwaddol
Yma efo ni'n wastadol.
-------------

Diolchwn am oes hirfaith
y wraig dda gydol ei thaith.

Cwsg Mewn Hedd Dorothy.
Eifion Wynne
22/10/2025
Comment